SL(6)397 – Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diffinio’r hyn a olygir gan adeilad risg uwch at ddibenion adran 120I o Ddeddf Adeiladu 1984 (Deddf 1984), a fewnosododd Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn Neddf 1984. Mae hyn yn gwneud darpariaeth i adeiladau risg uwch fod yn ddarostyngedig i drefn reoleiddiol fanylach yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn diffinio adeilad risg uwch fel adeilad sydd naill ai o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 7 llawr, pan fo bob amser yn cynnwys o leiaf un uned breswyl neu pan fo’n ysbyty, yn gartref gofal neu’n gartref plant.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer mesur uchder adeilad.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfrifo nifer y lloriau mewn adeilad.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer eithriadau i’r diffiniad o adeilad risg uwch. Ni fydd adeiladau o’r fath yn ddarostyngedig i’r drefn reoleiddiol fanylach.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 2, nid yw’n glir pam y mae diffiniad penodol o “annedd” wedi’i gynnwys, a pham mai dim ond at gynnwys fflat y mae’n cyfeirio’n uniongyrchol. Mae’r diffiniad o “uned breswyl” yn eang, ac mae’n cynnwys annedd neu “unrhyw uned llety byw arall...”. Mae’n debygol y byddai fflat yn dod o fewn ystyr arferol aelod (a) o’r diffiniad fel “annedd” ac y byddai hefyd yn dod o fewn y diffiniad eang iawn o (b) “unrhyw uned llety byw arall...”. O’r herwydd, gall y dewis i ddiffinio “annedd” i gynnwys fflat, ac yna diffinio “fflat” ei hun fel safle y caiff ei rannu’n llorweddol achosi dryswch i ddarllenydd. Mae’r diffiniadau yn ei gwneud yn aneglur beth allai statws fflat deulawr neu annedd debyg fod, sy’n rhychwantu gwahanol loriau ac a allai fod â rhaniadau fertigol a llorweddol i ddarparu ar gyfer grisiau preifat er enghraifft. Yn ddiweddarach, mae’r darllenydd yn canfod y byddai “uned breswyl” yn debygol o gynnwys fflat deulawr beth bynnag. O’r herwydd, mae cynnwys y diffiniad o “annedd” a “fflat” yn gofyn am eglurhad pellach, gan fod ystyr i’r ddau sy’n hysbys mewn iaith gyffredin, nad yw’n ymddangos bod y rheoliadau’n dymuno gwyro oddi wrthynt. Mae’n ymddangos bod y diffiniad o “uned breswyl” wedi’i ddrafftio’n glir heb fod angen y diffiniadau ategol ychwanegol hyn.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 2, mae i “lluoedd Ei Fawrhydi” yr un ystyr â “His Majesty’s forces” yn Neddf y Lluoedd Arfog 2006. Ond nodir rhif yr adran berthnasol lle y gellir dod o hyd i’r term yn Neddf y Lluoedd Arfog 2006 yn nhroednodyn (3) ar dudalen 3. Mae hyn hefyd yn digwydd yn y diffiniad o “llu ar ymweliad” sydd â’r un ystyr ag y mae at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952. Ond nodir rhif yr adran berthnasol o’r Ddeddf honno yn nhroednodyn (2) ar dudalen 4. Nid yw’n ymddangos bod rheswm amlwg dros gynnwys rhifau’r adrannau perthnasol mewn troednodiadau, sy’n rhannau anweithredol o’r testun, yn hytrach nag yn y diffiniadau eu hunain.

Yn yr un modd, mae’r diffiniadau o “cartref gofal” a “cartref plant” yn cyfeirio at wasanaeth cartref gofal a gwasanaeth llety diogel o fewn yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Ond maent hefyd yn methu â nodi’r darpariaethau penodol pan fo’r telerau hynny’n cael eu diffinio a phan fo ystyr yn cael ei roi iddynt at ddibenion Rhan 1 yn y Ddeddf honno. Mae hyn hefyd yn digwydd yn y diffiniad o “ysbyty” wrth gyfeirio at “ysbyty annibynnol” o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000. Felly, rhaid i’r darllenydd chwilio’r Deddfau hynny i ddarganfod lle y ceir y termau ynddynt.

Byddai’n well cynnwys rhifau’r adrannau perthnasol yn y diffiniad ym mhob achos, er mwyn cynorthwyo’r darllenydd i ddod o hyd i’r diffiniadau sy’n cael eu defnyddio yn yr offeryn hwn a’u deall.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

27 Hydref 2023